- Hanes y Fenter
-
Dyma peth hanes datblygiad busnes newydd ar Fferm Tyllwyd yn y flwyddyn 2003. Wrth edrych am ffyrdd i greu incwm ychwanegol i'r fferm roedd y syniad o werthu cig yn uniongyrchol i'r cwsmer yn apelio i ni fel teulu.
Roeddwn yn hyderus bod modd i ni ehangu busnes y fferm wrth werthu ein cig organig gwartheg duon Cymreig i'r cyhoedd. Felly dyma ni ar gychwyn 2003 yn paratoi taflenni a'u dosbarthu i'n ffrindiau a chysylltiadau a chychwn ar fusnes sydd erbyn heddiw yn llwyddiannus gyda galw cyson am ein cynnyrch. Penderfynwyd ar gynnwyd y bocs ac rydym wedi addasu yn gyson i anghenion y cwsmer a braf yw nodi fod nifer o'r cwsmeriaid cyntaf ar y pedwerydd bocs sydd yn rhoi sicrwydd bod y cynnyrch yn apelio.
Cafwyd llwyddiant arbennig hefyd mewn dwy gystadleuaeth sydd wedi hybu ein cynnyrch. Ym mis Mehefin mewn tŷ bwyta La Chaimiere yn Llundain, penderfynwyd gan ddeuddeg o brif cogyddion y ddinas fod ein filet o gig organig gwartheg duon Cymreig yn ennill wobr gyntaf ar safon, gwead, lliw, tynerwch a blas. Roedd hyn yn erbyn holl brydiau biff eraill y wlad hon a'r cyfandir. Ym mis Hydref 2003 cafwyd yr ail lwyddiant wrth ennill gwobr Efydd Gwir Flas Cymru yn categori 'newydd ddyfodiad' a chawsom ein gwobrwyo yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Beth am y dyfodol; y cam cyntaf ar gychwyn 2004 yw creu gwefan gyda hanes y fferm ac felly gobeithio deni rhagor o gwsmeriaid.
John James
- Darnau sydd wedi'u argraffu
-
Cymerwyd o berfforma Gwir Flas 2003-4
Fferm Tyllwyd
Mae Fferm Tyllwyd ger Caerfyrddin yn cynhyrchu cig eidion sydd ymhlith y gorau yn Ewrop yn ôl cogyddion o fri yn Llundain. O Fferm Tyllwyd y daeth y cig eidion ar gyfer eu cystadleuaeth goginio ddiweddaraf a daeth cig Gwartheg Duon Cymreig i'r brig fel cig eidion gorau Ewrop.Erbyn hyn, mae galw eithriadol am bocsys o gig organig Gwartheg Duon Cymreig Tyllwyd ac mae'r ffermwr, John James, yn ystyried cynyddu maint ei fuches er mwyd diwallu'r galw hwnnw.
"Cig o safon uchel sydd wedi'i gynhyrchu'n naturiol heb gemegau" yw ei ddisgrifiad o'i gig ardderchog. "Mae pobl yn dod yn ôl am fwy trwy'r amser a hynny yw'r ganmoliaeth orau i mi," meddai John. "mae'r blas yn ardderchog ac mae'r cig yn dyner ag iddo liw a brithder da."
Ymhlith y darnau mae'n eu gwerthu mae Stêcs Syrlwyn, Stêcs Crwper, Stêcs Filed, Farnau o Ochr Orau'r Rownd ac Ochr Las y Rownd, Sgwariau Cig Eidion a Mins Cig Eidion.
Mae'r bocsys yn cynnwys darnau o gig, sgwariau cig a mins ac maent yn costio £65. Gellir prynu filedau ac asennau ar wahân. Y teulu sy'n dosbarthu'r nwyddau a hynny'n ddi-dâl i unrhyw le rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, ond mae cwsmeriaid o cyn belled â Llundain a De Orllewin Lloegr yn dangos diddordeb hefyd.
Canmoliaeth cwsmeriaid yw'r hysbyseb orau, meddai John, sy'n gobeithio dechrau gwerthu dros y rhyngrwyd maes o law.
"Bydd Gwobr y Gwir Flas yn ein helpu i dynnu sylw at y cig arbennig hwn a Gwartheg Duon Cymreig yn gyffredinol. Mae'n ffordd o roi sêl bendith ar Gig Organig Gwartheg Duon Cymreig Fferm Tyllwyd."
Beef's a cut above the rest
Mae Fferm o Sir Gaerfyrddin wedi ennill gwobr sylweddol am ei cig eidion dosbarth uchel.
Fe gafodd Fferm Tyllwyd yn Felingwm Uchaf ei gwobrwyo gwobr efydd yn categori newydd-ddyfodiad o'r Cystadleuaeth Gwir Flas. Roedd y seremoni wedi'i chynnal yn Gwesty Celtic Manor yn Nghasnewydd.
Mae cwsmeriaid Fferm tyllwyd yn methu cael digon o focsys o Bîff Organig Gwartheg Duon Cymreig a mae ffermwr John James yn edrych at cynyddu ei genfaint i ateb y galw.
Mae Mr. James yn crynhoi ei biff buddugol o fod yn "cig o ansawdd uchel heb unrhyw gemegau, wedi'i gynhyrchu ffordd naturiol."
Mae'r fferm teuluol yn cynhyrchu amrywiaeth o gigoedd yn cynnwys Stêcs Syrlwyn, Stêcs Crwper, Sgwariau Cig Eidion a Mins Cig Eidion.
Mae'r cigoedd yn cael eu dosbarthu dros Orllewin Cymru a diddordeb yn dod mor bell a Llundain.
Mae Mr. James yn gobeithio gwerthu'i gynnyrch dros y we yn y dyfodol.
Welsh Black Top Steak (As If You Needed Telling)
Mae Biff Gwartheg Duon Cymreig yn fuddugol mewn cystadleuaeth blasu stêc ffiled gan 12 brif Chef o Lundain.
Roedd y Cystadleuaeth, yn bwyty Lau Chaumiere yn Llundain ym mis Mawrth yn cynnwys wyth brid o gig eidion: yr Chalosse, Salers, Limousin, Charolais, Simmenthal, yr Aberdeen Angus, yr Duon Cymreig a brid dieithr o'r Iwerydd.
Fe gafodd y ffiledi cyfan eu paratoi a'u coginio ar radell can y Prif Chef, Franck Lebiez yn Le Chaumiere, a chawsant eu barnu ar wead, lliw, tynerwch a blas.
Y biff Gwartheg Duon Cymreig oedd yr enillydd, ac yna'r Salers a'r groes Aberdeen Angus dod wedyn.
Trefnwyr y cystadleuaeth oedd Fine France UK, cwmni sector breifat sy'n darparu i'r diwydiant bwyd ar draws yr DU.
"Roedd hyn yn canlyniad ardderchog i Gymru, Cynnyrch Cymreig a'r Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig", meddai Bill Goldsworthy, Cadair o Bartneriaeth Amaeth-Fwyd.
"Yr ydym ni yng Nghymru yn gwybod am ansawdd ein cynnyrch, ond mae'n arbenning o dda bod Chefs dylanwadol yn ystyried potensial cynnyrch Cymreig. Rwy'n gwybod fod oherwydd y llwyddiant mawr hwn, mae Chefs yn awyddus i derbyn mwy o biff Gwartheg Duon Cymreig ac mwy o gynnyrch Cymreig yn gyffredinol."
Fe gafodd yr biff gwartheg duon Cymreig ei darparu gan Mike Caplan-Hill o 'Business in Focus', sy'n gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Datblygu Cymru i hybu bwyd a diod Cymreig.
Dywedodd ei bod wedi'i fagu gan John James, Felingwm Uchaf, Caerfyrddin, aelod o Glwb Biff Organig Gwartheg Duon Cymreig. Fe gafodd y bwyst ei ladd a'i hongian gan y Canolfan Cig Bachyn Cymreig.
Cadair y Cyngor Sir Fioled Jones
"Mae'n arbennig o dda i weld taw cynnyrch o Sir Gaerfyrddin yw'r gorau sydd ar gael.
"Mae'n rhoi'r Sir ar y map yn ogystal a rhoi hwb at hyder cynhyrchwyr lleol eraill."
