- Y Fferm
-
Mae Fferm Tyllwyd wedi ei lleoli uwchben pentref Felingwm Uchaf. Fferm biff organig mewn ardal ddifreintiedig yw Tyllwyd. Mae yna nifer o wartheg duon Cymreig ar y fferm ac am 3 mis o'r gaeaf mae yna nifer o ddefaid tac. Mae fferm tyllwyd eisoes wedi elwa o dan gynllun Tir Cymen.
Yr ardaloedd cynefin sydd yn ganolog i'r Cytundeb Tir Gofal yw coetiroedd collddail bach a prysgwydd, glaswelltir asidig heb ei wella, glaswelltir niwtral heb ei wella a glaswelltir wedi ei lled wella.
Er mwyn ehangu'r amrywiaeth amaethyddol a bod bywyd gwyllt ar y fferm, mae Mr. James yn barod i dyfu arwynebedd o gnwd grawn gwanwyn gyda hadau gwair a chodlysiau oddi tanynt, a trosi glaswelltir wedi ei wella yn laswelltir wedi ei led wella.
O dan raglen Gwaith Cyfalaf y fferm, fe fydd nifer o'r ffiniau caeau traddodiadol yn cael eu hadfer a thipyn o waith ffensio yn cael eu gwneud i warchod cynefinoedd at ddibenion rheoli amgylcheddol.
